Fe fydd yr isafswm cyflog cenedlaethol yn codi 20c yr awr i gyrraedd £6.70 – y cynnydd mwyaf go iawn ers saith mlynedd.

Daeth y cyhoeddiad gan Lywodraeth Prydain ac mae disgwyl iddo godi cyflogau mwy nag 1.4 miliwn o weithwyr o fis Hydref ymlaen.

Fe fydd yr isafswm cyflog i bobol 18-20 oed hefyd yn codi, o £5.13 i £5.30 (cynnydd o 3%), a phobol 16-17 oed yn derbyn 8c yn fwy, sef isafswm o £3.87 (2%).

Prentisiaid fydd yn gweld y cynnydd mwyaf – codiad o 57c (20%) i £3.30.

Cafodd y cynnydd ei argymell gan y Comisiwn Taliadau Isel ac mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi dweud y bydd yn cynnig “gwell diogelwch ariannol i weithwyr”.