Mae Centrica, sy’n berchen Nwy Prydain, wedi cyhoeddi gostyngiad o 35% yn ei elw i £1.75biliwn heddiw.

Dywedodd Centrica ei fod wedi bod yn “flwyddyn anodd iawn” i’r cwmni.

Roedd ei elw o gyflenwadau ynni wedi gostwng 23% i £439 miliwn wrth i’r tywydd cynhesach olygu bod cartrefi’n gwario tua £100 yn llai ar filiau nag yn 2013.

Dywedodd Iain Conn, a oedd wedi dechrau ei swydd fel pennaeth Centrica fis diwethaf, y byddai’r cwmni yn gwario llai ar fuddsoddiadau a thorri costau. Mae wedi lansio adolygiad strategol o’r busnes.

Bydd cyfranddalwyr yn derbyn 21% yn llai yn eu taliad blynyddol ar gyfer 2014.

Meddai Iain Conn: “Roedd 2014 yn flwyddyn anodd iawn i Centrica ac mae’r gostyngiad diweddar ym mhrisiau olew a nwy wedi bod yn her ychwanegol.”