Mae Ofgem wedi rhoi dirwy o £11.1 miliwn i Nwy Prydain.

Yn ôl y rheoleiddiwr, roedd y cwmni nwy wedi methu â sicrhau bod digon o gartrefi wedi cael eu hinsiwleiddio hyd at 2012.

Bydd yr arian o’r ddirwy yn cael ei roi i elusennau sy’n helpu pobol i dalu eu biliau tanwydd.

Mae Ofgem a Nwy Prydain yn dweud mai’r tywydd oer oedd yn gyfrifol am yr oedi.