Mae 89 o swyddi newydd wedi’u creu yng Nghaerdydd, wrth i gwmni ariannol agor swyddfa newydd yn y brifddinas.

Mae cwmni Open Resolution yn cynnig gwasanaethau sgôr credyd i bobl sydd am gael benthyciad.

Mae’n derbyn £250,000 gan Lywodraeth Cymru i’w roi at eu buddsoddiad o £375,000.

Roedd y nawdd gan y llywodraeth yn allweddol wrth sicrhau na fydden nhw’n agor eu swyddfa newydd yn India, meddai Open Resolution.

“Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi chwarae rôl hanfodol yn ein penderfyniad i sefydlu’r busnes yng Nghymru yn hytrach na dramor, ac rydyn ni’n gobeithio lansio’r busnes yn yr Hydref a chreu swyddi dros y 18 mis nesaf,” meddai llefarydd.