Llun llyfrgell - fferm wynt
Mae cwmni BT wedi cyhoeddi y byddan nhw’n prynu digon o ynni gan fferm wynt newydd yn y Cymoedd i gynnal tua 50% o’i weithgareddau yng Nghymru.

Bydd BT yn prynu’r holl ynni a gaiff ei gynhyrchu gan fferm wynt naw tyrbin newydd ym Mynydd Bwllfa ger Hirwaun – cytundeb sydd werth £100 miliwn dros 15 mlynedd.

Yn ôl Ann Beynon, cyfarwyddwr BT yng Nghymru, fe fydd y cytundeb yn rhoi sicrwydd pris am ynni i  BT ac yn cefnogi swyddi a rhoi manteision i’r economi lleol.

“Rydan ni fel cwmni wedi ymrwymo i leihau ein hallbwn carbon gan ein bod ni eisiau darparu gwasanaethau sy’n helpu pawb i fyw o fewn adnoddau’r blaned,” meddai. “Ac mae’n bleidlais o hyder mewn ynni adnewyddadwy yng Nghymru.”

‘Twf gwyrdd’

Dywedodd Alun Davies, y Gweinidog dros Gyfoeth Naturiol a Bwyd: “Rwy’n cymeradwyo BT am ddangos arweiniad o’r fath wrth ddod o hyd i drydan sy’n cael ei gynhyrchu gan ffynonellau adnewyddadwy.

“Bydd ymrwymiad BT yn helpu i sicrhau swyddi tymor hir a dyma’r math o weithredu yr wyf yn awyddus i annog er mwyn helpu Cymru i gyflawni ei huchelgais am dwf gwyrdd.”