Castell Caernarfon
Mae twristiaeth eisoes yn dod a nifer fawr o ymwelwyr i Gymru bob blwyddyn, ac eleni mae Croeso Cymru’n lansio ymgyrch hysbysebu newydd er mwyn ceisio manteisio ar yr enw da hwnnw.

Bydd ymgyrch ‘Does unman tebyg i Gymru’ yn lansio ar ddydd Gŵyl Dewi, gyda’r hysbysebion yn cynnwys rhai o draethau a chestyll mwyaf trawiadol y wlad yn ogystal â chân gan Cerys Matthews.

Cafodd yr ymgyrch, a gostiodd £4m, ei hariannu gan y Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewropeaidd.

Mae’r diwydiant twristiaeth gwerth tua £5bn i economi Cymru, ac yn ôl Gweinidog yr Economi Edwina Hart fe fydd yr ymgyrch hysbysebu yn cynnig mwy o syniadau i ymwelwyr o beth sydd  i’w wneud yng Nghymru.

“Rydym ni’n lwcus yng Nghymru fod gennym ni ystod mor eang o weithgareddau, profiadau a deunyddiau i’w mwynhau a’u rhannu gyda’n hymwelwyr,” meddai Edwina Hart.

“Fodd bynnag mae rhywfaint o’n hymchwil defnyddwyr diweddar yn awgrymu nad yw pobl o reidrwydd yn ymwybodol o’r holl bethau gwych i’w gweld a’u gwneud yma yng Nghymru.

“Felly mae’r ymgyrch hwn yn taclo’r camargraff hwnnw.”

‘Sialens’

Yr ysbrydoliaeth greadigol y tu ôl i’r hysbyseb yw cyfarwyddwr y gyfres Y Gwyll, Marc Evans, gyda thrac beicio BikePark Wales, Castell Caernarfon, traeth Abersoch a dolffiniaid Bae Ceredigion ymysg y pethau sy’n cael eu harddangos.

Bydd gwylwyr hefyd yn clywed Cerys Matthews yn canu’r alaw werin draddodiadol ‘Mil Harddach Wyt Na’r Rhosyn Gwyn’ yn yr hysbyseb.

“Cefais fy magu yng Nghaerdydd ond treuliais bob haf yng Ngorllewin Cymru ac rwy’n caru’r lle,” meddai Marc Evans.

“Mae’r wlad fach fawr, Cymru, yn newid o hyd o ran y tywydd a golau, a’r ffordd y mae’n cyflwyno’i hun i’r byd.

“Sialens fawr i’w chyfleu mewn hysbyseb.”