Paul Flowers (llun PA)
Mae cyn gadeirydd Banc y Co-op wedi cael ei arestio yn rhan o ymchwiliad i gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon.

Fe gadarnhaodd Heddlu West Yorkshire eu bod wedi arestio dyn 63 oed yng Nglannau Mersi a’i fod yn cael ei holi mewn swyddfa yng Ngorllewin Swydd Efrog.

Fe ymddiswyddodd y cyn-gynghorydd Llafur a’r gweinidog Methodistaidd ar ôl cyhoeddi lluniau’n awgrymu ei fod yn prynu cyffuriau.

Ar ôl hynny, fe wnaed honiadau pellach ynglŷn â’i fywyd preifat ac mae’r Banc yn ceisio hawlio £31,000 yn ôl oddi arno – tâl a gafodd am y cyfnod ar ôl iddo ymddiswyddo ym mis Mehefin, cyn datgelu’r cyhuddiadau newydd.

A’r honiadau diweddara’ yw fod Paul Flowers wedi gorfod gadael elusen gyffuriau yn 2004 oherwydd problemau tros ei gostau am deithio a phrydau bwyd.