Amgueddfa Sain Ffagan - y castell
Fe gafodd Amgueddfa Cymru ei beirniadu am gytundeb masnachol sy’n gofyn am lefel “druenus o fach” o gynnyrch o Gymru.
Yn ôl Aelod Cynulliad tros Ddwyrain De Cymru, mae’r Amgueddfa’n fodlon ar gael llai na chwarter ei bwyd gan fusnesau o Gymru.
Yn ôl AC Plaid Cymru, Lindsay Whittle, mae hynny’n golygu colli swyddi ac arian i Gymru.
Cwmni o Ffrainc
Fe ddaeth ei ymchwilydd o hyd i’r wybodaeth ar ôl holi cyfres o gwestiynau Rhyddid Gwybodaeth ynglŷn â’r cytundeb deng mlynedd y mae’r Amgueddfa wedi ei arwyddo gyda chwmni o Ffrainc, Elior.
Mae hwnnw’n dangos bod yr Amgueddfa’n gofyn am ddefnyddio 22% o gynnyrch o Gymru ar y dechrau, a hynny’n codi i ddim ond 24% ar ôl blwyddyn.
Mae’r cytundeb yn cynnwys tair amgueddfa bwysica’ Cymru – y brif amgueddfa yng Nghaerdydd, Sain Ffagan ac Amgueddfa’r Glannau yn Abertawe.
Y ddadl
“Does dim pwynt i Lywodraeth Cymru geisio gwella lefelau prynu lleol os yw cyrff fel Amgueddfa Cymru’n arwyddo cytundebau am gyn lleied o gynnyrch Cymreig,” meddai Lindsay Whittle.
“Mae elw sy’n cael ei wneud gan fusnesau Cymreig yn aros yng Nghymru, yn hytrach na mynd dros y ffin. Byddai modd creu 50,000 yn rhagor o swyddi yng Nghymru petaen ni’n gallu cyrraedd targed o 75% o brynu lleol.”
Roedd yr Amgueddfa wedi ateb yr ymholiadau trwy ddweud bod rhaid iddyn nhw gadw’r fantol rhwng awydd am gynnyrch Cymreig, ar un llaw, a’r angen i gael gwerth am arian a chael partner llwyddiannus, ar y llall.