Airbus ym Mrychdyn
Mae ffigyrau sydd wedi’u cyhoeddi heddiw yn dangos fod cynnydd o 191% ym muddsoddiad cwmnïau tramor yng Nghymru.

Mae Adroddiad Blynyddol Buddsoddiad Mewnol gan UKTI ar gyfer 2012/2013 yn dangos fod Cymru wedi cofnodi cynnydd sylweddol yn nifer y prosiectau sy’n cael eu cefnogi gan gwmnïau o dramor gyda buddsoddiad parhaol cwmni Airbus ym Mrychdyn yn un esiampl.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb: “Mae’r ffigyrau yma yn galonogol iawn ac yn tanlinellu fod Cymru yn gyrchfan bwysig i fuddsoddiad uniongyrchol o dramor.

“Gydag ymrwymiad cwmni HDM Steel Pipe i sefydlu ffatri yng Nghaerdydd a chynnydd gwneuthuro yn ffatri Airbus ym Mrychdyn, mae’r twf yn yr economi breifat yn gwneud Cymru yn le gwych i fuddsoddi.”

Mae’r adroddiad yn dangos fod y DU yn parhau i sefydlu ei hun fel un o leoliadau pwysicaf Ewrop ar gyfer buddsoddiad o dramor gyda 170,000 o swyddi yn cael eu creu yn sgil y prosiectau.