Mi lwyddodd Olympics Llundain i ddenu gwerth £9.9biliwn o fasnach a buddsoddiad i wledydd Ynysoedd Prydain, yn ôl adroddiad ar gyfer Llywodraeth Prydain a Maer Llundain.

Ac yn ôl y BBC mae amcangyfrifon annibynnol yn rhagweld y bydd y budd o gynnal y Gemau yn werth rhwng £28bn a £41bn erbyn 2020.

Meddai’r Gweinidog Busnes Vince Cable: “Nid oes amheuaeth bod Gemau Olympaidd 2012 wedi bod yn lwyddiant o safbwynt busnes Prydeinig.”

Ysbrydoli gwirfoddoli

Hefyd mae’r adroddiad yn pwysleisio bod yr Olympics wedi cael dylanwad llesol ar y nifer sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon, ac wedi ysbrydoli mwy i wirfoddoli yn eu cymunedau ar ôl iddyn nhw ddotio at gyfraniad gwirfoddolwyr yn y Gemau y llynedd.

Mae 1.4 miliwn yn fwy yn cymryd rhan mewn chwaraeon, o gymharu â 2005 pan enillodd Llundain yr hawl i gynnal y Gemau, yn ôl adroddiad.