Mae myfyrwyr am gynnal protest heddiw ym mhrifysgol y Drindod Dewi Sant yn sgil diswyddo staff a “thorri addewidion”.

Yn ôl Llywydd Undeb Myfyrwyr y Coleg, Mattias Eken, eu bwriad yw meddiannu un o’r adeiladau ar gampws Llanbedr Pont Steffan am fod staff yn cael eu diswyddo.

“Mae’n bygwth ein haddysg,” meddai

“Fe ddywedwyd wrthon ni cyn y Nadolig na fydden nhw’n cael gwared â thiwtoriaid traethawd hir myfyrwyr yr Ysgol Fusnes yn eu trydedd flwyddyn ond dyna’n union beth sydd wedi digwydd, ac mewn astudiaethau crefyddol hefyd.”

Mae’r myfyrwyr hefyd yn gofyn am newid pwyslais sydd, “wedi bod yn symud i ffwrdd o’r profiadau o fod yn fyfyriwr”, medd y llywydd.

“Mae’r coleg wedi methu â chadw at yr addewid i adeiladu neuadd chwaraeon newydd ac mae’r un yn Llanbed yn gollwng dŵr.”

Ymateb y Brifysgol

Dywedodd llefarydd ar ran y Brifysgol wrth Golwg eu bod “yn adolygu niferoedd staff er mwyn arbed costau mewn rhai meysydd tra eu bod yn ceisio buddsoddi mewn meysydd eraill fel rhan o broses gynllunio flynyddol.”

Ychwanegodd fod yr Ysgol Fusnes “yn hyderus bod safonau academaidd yn cael eu cynnal ac nad yw unrhyw fyfyriwr sydd yn cwblhau traethawd estynedig wedi’i roi dan anfantais.”

Mae’r Ganolfan Chwaraeon ar gampws Llanbed yn y broses o gael ei hatgyweirio ar hyn o bryd, meddai, a bydd y Brifysgol yn parhau i gyfathrebu a chynnal cyfarfodydd gyda’r myfyrwyr.

Rhagor yng nghylchgrawn Golwg wythnos yma