Mae Prifysgol Bangor yn cael eu cyhuddo o gyflwyno cynllun toriadau sy’n “targedu’r Gymraeg”.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cwyno wrth Gomisiynydd y Gymraeg yn dilyn cyhoeddiad gan y brifysgol fod pum aelod o staff yn yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol am golli eu swyddi ym mis Medi.

Mae’r pump yn staff dwyieithog ac mae perygl i ddyfodol addysg myfyrwyr sydd am ddilyn cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg o fewn yr Ysgol.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn cynnig arall i ddiswyddo staff yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd, a hysbysebu nifer o swyddi heb amod iaith Gymraeg arnyn nhw.

Mae’r holl gyrsiau cynradd a sesiynau annibynnol ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ar hyn o bryd, ac mae’r ddarpariaeth uwchradd yn golygu bod rhai dosbarthiadau’n ddwyieithog.

Galw am ymchwiliad

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am ymchwiliad “i weithredoedd diweddar y Brifysgol”, gan honni bod yna “batrwm yn datblygu o doriadau sy’n targedu’r Gymraeg”.

“Mae’n edrych yn fwriadol,” meddai Gwerfyl Roberts o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. “Mae’r cynigion yn awgrymu’n glir eu bod yn gweld y Gymraeg fel cost ychwanegol, yn hytrach na fel y mantais y mae hi.

“Maen nhw wedi awgrymu yn eu cynigion fod y Gymraeg yn faich ac yn eilradd i’r Saesneg, ond mae hynny’n groes i bolisïau’r Brifysgol.

“Mae cynllunio’r gweithlu yn gwbl greiddiol i’r ymdrech i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.

“Os yw Prifysgol Bangor yn esgeuluso’r Gymraeg yn y fath fodd, maen nhw’n mynd i rwystro’r genedl gyfan rhag adfywio’r Gymraeg.

“Mae’r Gymdeithas yn sylweddoli ei fod yn gyfnod anodd i nifer o brifysgolion ac yn erfyn ar i bob lefel o Lywodraeth atal llymder a thyfu nid torri ein gwasanaethau cyhoeddus.”