Mae ymgyrchwyr yn galw am gefnogaeth er mwyn sicrhau dyfodol gwasanaethau cerddoriaeth yng Ngheredigion.

Mae Cyfeillion Cerddorion Ifanc Ceredigion yn dweud bod y Cyngor Sir yn gwrthod trafod eu cynlluniau dadleuol i dorri tros hanner cyllideb gerddorol ysgolion â rhieni a rhanddeiliaid.

Daw sylwadau’r Cyfeillion er i’r Cyngor Sir bleidleisio o blaid gofyn i’r Cabinet ail-ystyried y cynlluniau ac i gynnal ymgynghoriad ar ddyfodol y gwasanaethau.

Mae gofyn i rhieni nodi mewn llythyr a oes gan eu plant ddiddordeb mewn gwersi cerddoriaeth y flwyddyn nesaf ar gost bosib o £140.

Ond dydyn nhw ddim wedi cynnig rhagor o fanylion am y newidiadau arfaethedig, meddai’r ymgyrchwyr.

Mae ymdrechion ar y gweill i ennyn diddordeb plant mewn cerddoriaeth, a phenllanw hynny fydd y Proms Ysgolion Cynradd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ddydd Mercher (Gorffennaf 3).

‘Y Cyngor yn claddu ei ben’

“Ry’n ni’n annog unrhyw rieni sy’n petruso oherwydd yr ansicrwydd y mae cynlluniau’r Cyngor wedi ei achosi, i ddychwelyd eu llythyron a dynodi bod gan eu plant ddiddordeb mewn derbyn gwersi,” meddai Angharad Fychan, sy’n un o Gyfeillion Cerddorion Ifanc Ceredigion.

“Mae’n bwysig bod y Cyngor yn gweld bod galw, a bydd Proms Ysgolion Cynradd llwyddiannus yn brawf pellach o gefnogaeth y cyhoedd.

“Mae’n rhwystredig iawn bod y Cyngor yn claddu ei ben yn y tywod ynghylch y feirniadaeth eang o’r toriadau.

“Mae’r Cyfeillion – cymdeithas wirfoddol sydd wedi codi bron i £40,000 dros y 10 mlynedd diwethaf i gefnogi cerddoriaeth plant yng Ngheredigion – wedi cynnig trafodaeth adeiladol, ond mae’n ymddangos bod arweinyddiaeth y Cyngor yn benderfynol o gadw rhieni ac ieuenctid yn y tywyllwch.

“Mi fyddwn ni yn y Proms Ysgolion Cynradd fel arfer ar 3 Gorffennaf, yn cefnogi’r plant ac yn codi arian, ac ry’n ni’n annog trigolion Ceredigion i ddangos eu cefnogaeth.”