Gwawr Loader
Mae myfyriwr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi ennill gwobr bwysig.

Mi wnaeth Gwawr Loader, sy’n dilyn cwrs actio meistr yn y coleg, ennill gwobr Hobsons neithiwr. Mae’r wobr hon yn cael ei rhoi i fyfyrwyr drama yn flynyddol am eu sgiliau lleisio. Mae’n cael ei noddi gan yr asiantaeth Hosbons Voices sydd ag amryw o enwau adnabyddus ar eu llyfrau, gan gynnwys Rob Brydon.

“Dwi wrth fy modd, ac yn teimlo’n lwcus iawn fy mod wedi ennill Gwobr Hobsons sy’n rhoi gymaint o anogaeth i newydd ddyfodiaid yn y diwydiant i achub y cyfle i leisio,” meddai Gwawr. “Mae lleisio yn rhan mor bwysig o yrfa unrhyw actor ac mae cael pobol mor wych yn fy nghefnogi mor fuan yn fy ngyrfa yn gyffrous iawn. Mi wnes i  fwynhau’r broses o gystadlu’n fawr iawn ac mi faswn i’n annog pob myfyriwr sy’n gymwys i roi cais arni. Diolch i bawb sydd wedi fy nghynorthwyo ac wedi fy nghefnogi.”

Fel rhan o’r wobr, bydd Gwawr yn awr yn un o’r rhai fydd ar lyfrau Hosbsons Voices.

Mae Gwawr yn un o gyn-gyflwynwyr y gyfres Uned 5 ar S4C. Ar hyn o bryd, mae ar daith gyda’r cwmni theatr Mappa Mundi, yn cyflwyno drama Shakespeare, Much Ado About Nothing.

Meddai Cadeirydd y panel beirniaid, David Hodge, “Mae Gwawr yn hyn y mae Hobsons bob amser yn chwilio amdano mewn artist, sef y pecyn cyflawn. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda hi.”