Mae dau brosiect ymchwil y mae Prifysgol Abertawe yn rhan ohonyn nhw wedi derbyn gwerth ₤11m mewn grantiau gan y Comisiwn Ewropeaidd.

Bydd y ddau brosiect yn canolbwyntio ar gefnogi datblygiad nanoddeunyddiau wedi’u peiriannu (ENM).

Nod y prosiect Nanolnforma TIX, sy’n cael ei arwain gan griw yn Sbaen, yw creu fframwaith cyfrifiadurol ar gyfer deall datguddiad a natur wenwynig nanoddeunyddiau wedi’u peiriannu.

Y nod fydd defnyddio gwybodaeth o’r ymchwil i gynorthwyo gydag asesau risg, lleihau dibyniaeth ar brofi ar anifeiliaid a chefnogi dylunio cynnyrch mwy diogel.

Mae’r ail brosiect wedyn yn becyn gwaith ar gyfer RiskGONE, sy’n cael ei arwain gan y Sefydliad Norwaidd ar gyfer Ymchwilwyr Awyr.

Bydd y prosiect hwn yn archwilio materion sy’n ymwneud â llywodraethu a rheoleiddio gwerthusiad nanoddiogelwch.

“Cysylltu â phartneriaid rhyngwladol”

Bydd y gwaith ymchwil yn cael ei gynnal gan y Grŵp Tocsicoleg In Vitro, sy’n rhan o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, gyda’r Athro Shareen Doak yn chwarae rhan blaenllaw yn y ddau brosiect.

“Rydym wrth ein bodd i ddechrau 2019 gyda’r arian ymchwil pwysig hwn,” meddai’r Athro Keith Lloyd, Pennaeth yr Ysgol Feddyginiaeth. “Mae’r Athro [Shareen] Doak a’i thîm wedi gweithio’n hynod galed i ddatblygu ymchwil ar nanoddiogelwch.

“Bydd ein myfyrwyr hefyd yn elwa o’r gwaith hwn drwy eu prosiectau ymchwil – byddan nhw’n gallu cysylltu â phartneriaid rhyngwladol a bod o flaen y gad o ran yr ymchwil pwysig hwn.”