Mae gwersi offerynnol i ddisgyblion mewn ysgol o fantais i’r gymuned gyfan, yn ôl arbenigwyr.

Mae’r ymchwil gan Eira Winrow a’r Athro Rhiannon Tudor Edwards o Brifysgol Bangor yn canolbwyntio ar y prosiect Codi’r To, sy’n darparu gwersi offerynnol am ddim i blant yn ardaloedd Bangor a Chaernarfon.

Dywed yr ymchwil fod 41% o rieni sydd ar incwm isel yn methu â fforddio talu am addysg gerddorol i’w plant yn sgil toriadau i gyllidebau cynghorau lleol ac ysgolion.

Ond am bob £1 sy’n cael ei fuddsoddi yn Codi’r To, a gafodd ei sefydlu yn 2014, mae £6.69 mewn gwerth cymdeithasol yn cael ei greu, meddai’r arbenigwyr.

Gwerth cymdeithasol

Mae Codi’r To yn cael ei redeg gan y fenter gymdeithasol, Sistema Cymru, sy’n defnyddio system o Fenwswela sy’n ceisio creu newid cymdeithasol a gwella addysg a lles plant trwy gyfrwng cerddoriaeth.

Mae dros 280 o ddisgyblion yng ngogledd Cymru’n elwa o’r prosiect, sy’n cynnal sesiynau rhad ac am ddim yn ystod oriau ysgol yn ogystal â chyngherddau cerddorol ar gyfer y gymuned ehangach.

Wrth ystyried gwerth cymdeithasol y prosiect, dywed yr arbenigwyr mai dim ond 48% o’r gwerth y mae’r disgyblion eu hunain yn elwa ohono.

Mae 51% ar gyfer rhieni ac aelodau o deulu’r disgyblion hynny, gyda nifer yn dweud bod Codi’r To wedi dod â nhw’n agosach at y gymuned.

Yr ysgolion a’r gymuned sy’n elwa o’r 1% o’r gwerth cymdeithasol sy’n weddill wedyn.

Cyfleoedd

“Er gwaethaf y cymysgedd o fanteision, mae Codi’r To yn ddibynnol ar nawdd elusennol ac mae plant o deuluoedd sydd ar incwm isel yn llai tebygol o gael gyrfaoedd yn y celfyddydau, a llai tebygol hefyd o fod yn rhan o glybiau allgyrsiol sy’n cynnwys elfennau o’r celfyddydau,” meddai’r ymchwil.

“Ond wrth edrych tua’r dyfodol, fe all prosiectau elusennol fel Codi’r To gan Sistema Cymru fod yr unig gyfle sydd gan rai plant i brofi gweithgareddau cerddorol a chelfyddydol.”