Fe gafodd seremoni deimladwy ei chynnal yn Ysgol Bro Teifi ddiwedd yr wythnos (dydd Gwener, Tachwedd 9) er mwyn cofio am gyn-ddisgyblion a fu farw o dan amgylchiadau ‘anarferol’.

Roedd y seremoni ar gyfer agor gardd goffa ar dir yr ysgol, sy’n cynnwys cofeb ryfel a fu, ers 1949, ar wal y llyfrgell yn yr hen Ysgol Dyffryn Teifi.

Ond yn ôl Robert Jenkins, pennaeth Ysgol Bro Teifi, mae’r ardd goffa hefyd ar gyfer yr holl gyn-ddisgyblion a “gollwyd yn rhy ifanc”.

Ymhlith y cyn-ddisgyblion hynny mae Helen Thomas o Gastellnewydd Emlyn, a fu farw yn ystod protest yng Nghomin Greenham yn 1989, a Miriam Briddon o ardal Ceinewydd, a gafodd ei lladd mewn damwain car yn 2014.

Cofio

Yn ôl John a Janet Thomas, rhieni Helen Thomas, bu’r seremoni agoriadol yn brofiad “eitha’ caled”, wrth iddyn nhw gofio am golli ei merch bron 30 mlynedd yn ôl.

“Mae’n braf bod pobol yn cofio, fel y dwedes i wrth rywun gyne, mae’n gwneud i chi deimlo na fu eu bywyde nhw’n ofer,” meddai Janet Thomas. “Mae pobol yn cofio o hyd.”

Roedd Margaret Williams wedyn yn bresennol ar ran ei diweddar ŵr, a gollodd ewythr yn yr Ail Ryfel Byd.

“Roeddwn i’n falch o weld y gofeb lan yn fan hyn [yn yr ysgol newydd], ac roedd hi’n neis i weld enw Rhys Beynon-Davies arno fe ac enwau pawb arall,” meddai.

“Mae’n dda cofio amdanyn nhw. Plant oedden nhw mewn ffordd – doedden nhw ddim yn ugain oed.”