Fe  fydd seminar yng Nghaerdydd heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 7) yn trafod y bwlch “anghymesur” rhwng cyflogau penaethiaid a darlithwyr addysg uwch yng Nghymru.

Mae disgwyl i 200 o weithwyr y sector addysg ddod ynghyd ar gyfer y digwyddiad sydd wedi’i drefnu gan Unsain.

Yn eu plith fydd gweithwyr clerigol, staff technoleg gwybodaeth, gweithwyr labordai, glanhawyr, staff arlwyo a swyddogion diogelwch.

Byddan nhw’n trafod eu cyflogau isel, o’u cymharu â chyflogau uchel rheolwyr.

Bydd cynrychiolwyr o wyth prifysgol yng Nghymru’n rhoi tystiolaeth ar faterion yn amrywio o lwyth gwaith, oriau sero a gweithio i asiantaethau.

Ymhlith eu pryderon mae’r perygl i swyddi a phensiynau, wrth i waith a gwasanaethau gael eu dosbarthu ymhlith cwmnïau allanol.

Yn 2016, roedd pob is-ganghellor yng Nghymru’n ennill cyflog o fwy na £200,000, a swyddogion uwch yn ennill dros £100,000.

‘Rôl hanfodol’

“Mae gan staff cynorthwyol rôl hanfodol yn llwyddiant addysg mewn prifysgolion ac wrth roi profiad positif iawn i fyfyrwyr ar adeg allweddol yn eu bywydau,” meddai aelod Cymru ar bwyllgor gwaith addysg uwch Unsain, Dan Beard.

“Er hyn, rydym yn aml yn cael ein trin fel cyflogeion eilradd ac mae cyflogau isel ac amodau gwael yn pwyso arnom.

“Mae cyfraddau isafswm cyflog yn golygu bod cyllidebau teuluol staff cynorthwyol wedi’u hymestyn i’r eithaf. Ond eto, mae prifysgolion heddiw’n fusnesau gwerth miliynau o bunnoedd ac mae gan is-gangellorion gyflogau fel rhifau ffôn.

“Yn syml, dydy hyn ddim yn dderbyniol ac mae angen rhannu’r arian mewn ffordd lawer tecach. 

“Fel man cychwyn, does dim rheswm pam na all prifysgolion Cymru dalu o leia’r Cyflog Byw Sylfaenol o £9 yr awr.”

‘Gyrru twf yng Nghymru’

“Gall system addysg o safon fyd-eang yrru twf economaidd Cymru,” meddai ysgrifennydd rhanbarthol Unsain Cymru, Stephanie Thomas.

“Gall helpu i gyflwyno cymdeithas decach sy’n rhoi cyfle cyfartal i bawb ac sy’n datgloi potensial pobol. Dyna pam ddylai prifysgolion Cymru fod yn gyflogwyr teg hefyd.

“Mae Unsain yn ymwrthod ag unrhyw fodd o farchnadeiddio gan ei fod yn niweidiol i ansawdd gwasanaethau i fyfyrwyr ac i gyflogau ac amodau gwaith staff.”