Mae ymgyrchydd o Abertawe yn dweud ei bod yn cwestiynu a fyddai’r genedl Gymreig yn bod heb Owain Glyn Dŵr.

Yn ôl Sian Ifan o’r grŵp ymgyrchu, Llysgenhadaeth Owain Glyndŵr, yr uchelwr o Glyndyfrdwy, a gafodd ei goroni yn Dywysog Cymru ddechrau’r bymthegfed ganrif oedd yr unig un wnaeth lwyddo i “uno Cymru ac i adennill annibyniaeth Cymru yn ôl”.

“Petai o ddim wedi gwneud y safiad yna, mae’n gwestiwn mawr a fydd gynnon ni genedl o gwbwl ar ôl heddiw,” meddai.

O ran dewis tywysoges Gymreig, mae Sian Ifan yn dweud bod Gwenllian ferch Gruffydd ap Cynan o’r ddeuddegfed ganrif wedi gwneud argraff arni, gan ychwanegu ei bod yn “ddynas ddewr dros ben”.

“Mae yna gofeb iddi yng Nghydweli, ond does dim byd ar y maes lle cafodd hi a’i meibion ei lladd, ac fe ddylai fod yna rywbath yn fan’na,” meddai.