Mae portread o Theresa May wedi’i dynnu i lawr oddi ar y wal yn adran Ddaearyddiaeth, Prifysgol Rhydychen, wedi i fyfyrwyr ysgrifennu negeseuon sarhaus o’i gwmpas.

Roedd y ffotograff o Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, a fu’n fyfyrwraig yng Ngholeg St Hugh, yn rhan o arddangosfa fechan o gyn-ddisgyblion a oedd wedi mynd yn eu blaenau i bethau mawr.

Ond mewn ymgyrch ar wefan gymdeithasol Twitter dan y teitl, ‘Not All Geographers’ fe fu myfyrwyr yn galw am i’r llun gael ei symud.

Roedd myfyrwyr wedi mynegi pryderon am y ffordd yr oedd Theresa May, a’i llywodraeth, wedi trin achosion Windrush a’r ffordd yr oedden nhw’n son am “hostile environment” i fewnfudwyr.

Ymhlith y negeseuon a gafodd eu hysgrifennu o gwmpas y llun, roedd “Gadewch bob ffoadur i mewn”, “Taflwch y Torïaid i’r môr”.

Fe ddaeth cadarnhad gan Brifysgol Rhydychwen y byddai’r portread yn cael ei hongian eto, ond mewn modd a fyddai’n ei gwneud hi’n amhosib i bobol roi neges o’i amgylch. Chafodd y llun, meddai’r brifysgol, ddim ei symud oherwydd bod y sefydliad yn cefnogi protest y myfyrwyr.