Bydd Pwyllgor Gwaith Cyngor Môn yn ymgynnull ddydd Llun (Ebrill 30) i drafod dyfodol tair ysgol wledig ar yr ynys.
Mae Pwyllgor Craffu Corfforaethol y Sir eisoes wedi ystyried y cynlluniau ac yn awgrymu atal newidiadau tan i Gôd Trefniadaeth newydd ddod i rym – cod fyddai’n diogelu’r safleoedd.
Ysgolion Corn Hir, Bodffordd a Henblas, yw’r safleoedd dan sylw gyda’r bwriad o agor ysgol newydd yn Llangefni; ac mae ymgyrchwyr iaith eisoes wedi cyhuddo swyddogion y Cyngor o “ruthro” i’w cau cyn i’r côd ddod i rym.
Petai’r newidiadau yn cael eu gweithredu mi fyddai’r ysgolion yn cael eu huno mewn rhyw ffurf: un opsiwn yw gosod y tair ysgol mewn un adeilad, a’r llall yw rhannu’r tair rhwng dau adeilad.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi “erfyn” ar y pwyllgor i wrando ar awgrymiadau’r pwyllgor blaenorol, ac i “gynnal trafodaeth agored a didwyll efo’r gymuned ar y ffordd ymlaen.”