Mae grŵp o fyfyrwyr o Aberystwyth wedi curo 13 o brifysgolion a cholegau eraill i ennill cystadleuaeth amaethyddol Brydeinig.

James Bradley, David Casebow, Anna Crockford, Rosie Francis a Hannah Hinchliffe oedd aelodau’r tîm, ac mae pob un yn astudio am radd mewn amaethyddiaeth.

Bu’n rhaid i’r cystadleuwyr dyfu math penodol o wenith, a llwyddodd y myfyrwyr buddugol i dyfu’r cnwd wnaeth werthu â’r elw uchaf.

Creu hanes

Ers i’r gystadleuaeth ddechrau yn 2012, dyma’r tro cyntaf i dîm o’r tu allan i Loegr fod yn fuddugol.

Y Sefydliad Cenedlaethol tros Fotaneg Amaethyddol (NIAB) sy’n cynnal y gystadleuaeth, a chafodd y timau eu herio i brofi eu sgiliau amaethyddol.

“Arbenigedd” Aberystwyth

“Rwyf wrth fy modd bod tîm [Prifysgol Aberystwyth] wedi ennill y cwpan nodedig hwn,” meddai Cyfarwyddwr Athrofa Gwyddorau Gwledig (IBERS) y brifysgol, Athro Mike Gooding.

“[Mae’n] tynnu sylw at yr arbenigedd y mae ein myfyrwyr yn ei ddatblygu mewn tyfu grawnfwydydd fel rhan o’r cyrsiau amaethyddol yma yn Aberystwyth.”