Mae Coleg Harlech yn edrych am gyllid i ddatblygu un o’i hen flociau i ddarparu llety ‘o ansawdd’ i ymwelwyr.

Mae elusen Addysg Oedolion Cymru, sydd bellach yn defnyddio’r coleg, wedi cyflwyno cais am grant gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.

Mae trafodaethau hefyd yn digwydd rhwng y coleg a Chanolfan Awyrofod Eryri yn Llanbedr i ddefnyddio’r llety newydd ar gyfer pobol sy’n ymweld â’r ganolfan.

Llety i ymwelwyr y Ganolfan Awyrofod?

“Rydym wedi cael nifer o drafodaethau â Choleg Harlech dros y misoedd diwethaf a gwelwn synergeddau sylweddol rhwng y ddau safle,” meddai Lee Paul ar ran Canolfan Awyrofod Eryri.

“Byddai’r cyfleusterau pwrpasol presennol yn y Coleg a’r rhai sy’n cael eu cynllunio ganddynt, yn ein barn ni, yn gallu cynnig buddion ychwanegol i’n cwsmeriaid yn ystod eu hymweliadau â’r maes awyr.

“Mae’r rhain, ynghyd â’r cyfle i weithio gyda’r Coleg wrth ddatblygu ein rhaglenni addysgol / STEM sy’n canolbwyntio ar faes awyrofod ac entrepreneuriaeth, yn gyffrous iawn.”

Dywedodd Addysg Oedolion Cymru ei fod yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd, Llywodraeth Cymru a Croeso Cymru i ddatblygu’r llety.

“Mae Cyngor Gwynedd yn cefnogi’r ymdrechion adfywio yn Harlech yn gyffredinol, ac yn ddiweddar, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, cwblhaodd ddarn o waith i nodi’r blaenoriaethau strategol allweddol ar gyfer y dref,” meddai’r Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Economi.

Coleg Harlech yn parhau i gynnig cyrsiau

Mae cyrsiau dysgu oedolion amser llawn yng Ngholeg Harlech yn parhau yn dilyn yr adleoliad diweddar i adeilad y theatr, gyda dau grŵp yn dysgu cyrsiau Mynediad i Nyrsio a chyrsiau yn y Dyniaethau.

Mae Coleg Harlech, wedi’i leoli ger Castell Harlech, sy’n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, ac yn edrych dros y Warchodfa Natur Genedlaethol ym Morfa Harlech ym Mharc Cenedlaethol Eryri.