Y Confensiwn yng Nghaerdydd (Llun Matt Dempsey o gyfri Twitter yr Undeb)
Fe glywodd cyfarfod yng Nghaerdydd ei bod yn “hanfodol” rhoi croeso i fyfyrwyr o bob rhan o’r byd i brifysgolion Cymru ar ôl Brexit.

Ond roedd yna rybuddion hefyd gan fyfyrwyr o rannau eraill o’r Undeb Ewropeaidd y byddai pobol yn dal yn ôl rhag dod i astudio yng ngwledydd Prydain.

Yn ôl cynrychiolwyr yng Nghonfensiwn Ewropeaidd y Myfyrwyr yn y brifddinas, roedd addysg ryngwladol yn bwysig ac roedd hi’n allweddol sicrhau bod rhyddid myfyrwyr i symud yn parhau.

Fe rybuddiodd Dirprwy Lywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru bod peryg i Lywodraeth San Steffan “ynysu Prydain o weddill y byd” os nac oedden nhw’n rhoi blaenoriaeth i sicrhau hawliau astudio rhyngwladol.

“Mae’n amlwg bod myfyrwyr ledled Ewrop yn cytuno y dylai addysg fod yn rhyngwladol: does dim modd adeiladu dyfodol cynaliadwy, gwell heb gydweithio rhyngwladol,” meddai Carmen Smith.

  • Mae Undeb Myfyrwyr Ewrop yn cynrychioli 43 undeb gwahanol mewn 38 o wledydd.