Mae graddedigion o Gymru yn ennill llai o gyflog na graddedigion gweddill gwledydd Prydain, yn ôl ystadegau newydd.

Dengys ffigurau’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) bod 32% o raddedigion prifysgolion Cymru yn ennill llai na £21,000.

Does dim un wlad arall ym Mhrydain sydd â chanran uwch o raddedigion yn ennill cyn lleied.

Mae’r ymchwil hefyd yn dangos mai ond 55% o bobol wnaeth astudio yng Nghymru, sydd wedi aros yma i weithio tair blynedd a hanner ers iddyn nhw raddio.

 “Anallu Llafur”

“Mae’r ffigurau yma yn datgelu diffyg swyddi i raddedigion yng Nghymru, o ganlyniad i anallu Llafur Cymru i adfywio’r economi,” meddai’r Aelod Cynulliad, Darren Millar.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru fynd ati ar frys i wella amgylchiadau i fusnesau fel eu bod yn medru ffynnu ac i greu’r swyddi sydd angen ar ein graddedigion.”

Cafodd 5,160 o raddedigion eu holi ar gyfer yr astudiaeth.

“Adeiladu ar ein llwyddiant” 

“Mae marchnad lafur Cymru’n gwneud yn dda gyda lefelau cyflogaeth bron cyn uched ag y buon nhw erioed a diweithdra gyda’r isaf erioed.  Er hynny, rydym yn sylweddoli fyw inni eistedd ar ein rhwyfau a bod yn rhaid inni adeiladu ar ein llwyddiant a datblygu blaenoriaethau economaidd a ddaw â budd i bawb yng Nghymru, gan gynnwys graddedigion.

“Nes ymlaen eleni, bydd Ysgrifennydd yr Economi’n cyhoeddi ei Gynllun Gweithredu ar yr Economi, fel ymateb i’r heriau mawr y mae Cymru’n eu hwynebu. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r sector fusnes i’w fireinio a’i roi ar waith.

“Wrth ystyried ystadegau cyflogaeth ymhlith graddedigion, mae’n bwysig cofio bod y sampl y maen nhw’n seiliedig arni’n fach.  Yn ogystal ag adlewyrchu cyflogau, sydd wrth reswm yn is nag yn rhannau cyfoethocach y DU, mae’r ystadegau’n dangos hefyd bod nifer y graddedigion sydd mewn gwaith yng Nghymru’n uchel iawn a bod dros hanner graddedigion ein prifysgolion yn dewis aros yma ar ôl graddio.”