Mae adolygiad gan Estyn, y corff sy’n arolygu addysg yng Nghymru, yn nodi fod angen i ysgolion uwchradd gynnig gwersi gwyddoniaeth sy’n herio disgyblion.

Yn ôl yr adroddiad, mae disgyblion 11-14 oed yn gwneud “cynnydd da” o ran gwyddoniaeth mewn tua hanner yn unig o’r gwersi.

Wrth iddyn nhw gyrraedd 14-16 oed, mae’r cynnydd hwnnw’n codi i 70% mewn gwersi gwyddoniaeth.

Am hynny, mae’r adroddiad ‘Gwyddoniaeth yng nghyfnod allweddol 3 a chyfnod allweddol 4’ yn argymell darparu gweithgareddau “heriol ac ysgogol” ym mhob gwers wyddoniaeth i wella safonau.

Gweithgareddau diddorol

“Yn y gwersi gwyddoniaeth gorau, mae athrawon yn meddu ar wybodaeth bynciol gref ac maen nhw’n datblygu dealltwriaeth disgyblion gydag ystod o weithgareddau diddorol,” meddai Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd Estyn.

“Maen nhw’n esbonio cysyniadau’n glir, yn darparu gwaith ymarferol wedi’i gynllunio’n dda, yn gwneud defnydd da o TGCh, ac mae ganddyn nhw ddisgwyliadau uchel,” ychwanegodd.

Rhannu arfer da

Mae’r adroddiad hefyd am weld mwy o gefnogaeth gan awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i gefnogi athrawon gwyddoniaeth i wella addysgu, asesu a rhannu arferion da.

Yn ogystal, dylai Llywodraeth Cymru “ymgyrchu i ddenu mwy o raddedigion gwyddoniaeth” i addysgu yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw nad yw’r nifer o athrawon gwyddoniaeth ôl-raddedig sy’n cael eu hyfforddi wedi bodloni targedau cenedlaethol yn ddiweddar.