Bydd y broses o ymgynghori ynglyn â symud ysgol gynradd Gymraeg gyntaf Cymru, yn dechrau yr wythnos nesaf.

Cafodd Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Llanelli, ei sefydlu yn 1947 a hon oedd yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg cyntaf i gael ei chefnogi gan unrhyw awdurdod lleol.

Bydd Cyngor Sir Gâr yn ymgynghori ynglyn â chynlluniau i symud yr ysgol o’i safle presennol yn Llanelli i adeilad newydd gwerth £9.1miliwn yn Llanerch.

Mae’n debyg nad yw’r safle presennol yn bodloni safonau cyfleusterau, nac yn bodloni’r safonau cynaliadwyedd amgylcheddol.

Darpariaeth “addas”

 “Nid yw adeiladau presennol Ysgol Dewi Sant yn cyrraedd y safonau uchel yr ydym am eu cael ar gyfer ein plant a’n staff addysgu,” meddai’r Cynghorydd Glynog Davies.

“Byddai’r adeilad newydd hwn ar gyfer yr ysgol nid yn unig yn darparu cyfleusterau addas ar gyfer addysg yn yr 21ain Ganrif, byddai hefyd mynd i’r afael â’r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.”

Bydd y sesiynau ymgynghori yn cael eu cynnal rhwng Medi 13 a Hydref 11, ac mi fydd cais cynllunio yn cael ei gyflwyno yn dilyn y cyfnod yma.