Llun: PA
Mae’r ysgol benodedig Gymraeg gyntaf yn ardal Y Trallwng wedi agor yn y dref heddiw.

Ar hyn o bryd does dim newid i ddisgyblion wrth i’r ysgol agor ar safle dros dro Ysgol Feithrin a Babanod Ardwyn.

Er hyn y bwriad ydy agor yr Ysgol Gymraeg ar safle Ysgol Maesydre erbyn mis Medi’r flwyddyn nesaf gyda lle ar gyfer tua 150 o ddisgyblion.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Powys fod hwn yn “gam sylweddol” yn y broses o “agor ysgolion newydd yn y dref”.

Penodiadau

Y pennaeth newydd ar gyfer yr Ysgol Gymraeg yw Bethan Bleddyn a fu’n bennaeth ar Ysgol Dyffryn Trannon, Trefeglwys cyn hynny.

Fe fydd Laura Jones, oedd yn ddirprwy Bennaeth Ysgol Feithrin a Babanod Ardwyn, yn dod yn ddirprwy bennaeth yn yr Ysgol Gymraeg newydd.

Ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg

Mae sefydlu’r Ysgol Gymraeg yn golygu cau pedair ysgol arall, sef Ysgol Fabanod Ardwyn, Ysgol Fabanod Yr Eglwys yng Nghymru Gungrog, Ysgol Gynradd Maesydre ac Ysgol Fabanod Oldford.

Mae’n rhan o gynlluniau i fuddsoddi £13m yn addysg gynradd y dref gydag ysgol cyfrwng Saesneg yr Eglwys yng Nghymru yn agor heddiw hefyd.

Fe fydd yr ysgol honno’n gweithredu o safleoedd ysgolion Maesydre, Gungrog ac Oldford am y tro tan y bydd yr adeilad newydd yn barod ar safle ger Ysgol Uwchradd Y Trallwng.