Myfyrwyr yn graddio (Clawed CCA 3.0)
Fe fydd ymchwiliad i effaith myfyrwyr tramor ar economi a chymdeithasau’r Deyrnas Unedig yn cael ei lansio heddiw(ddydd Iau, Awst 24).

Y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo fydd yn gyfrifol am yr ymchwil, a fydd yn ystyried effaith dinasyddion o du fewn a thu allan i’r Undeb Ewropeaidd ar y farchnad lafur a’r economi.

Bydd y pwyllgor yn ystyried effaith gwariant myfyrwyr o dramor ar economïau lleol, ac mi fyddan nhw’n adrodd eu canfyddiadau ym mis Medi 2018.

“Does dim cyfyngiad ar y nifer o fyfyrwyr tramor sydd yn medru teithio i’r Deyrnas Unedig i astudio,” meddai’r Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd. “Ac mae’r ffaith mai ni yw’r ail leoliad mwyaf poblogaidd yn y byd er mwyn astudio, yn destun balchder.”

“Rydym yn deall pa mor bwysig mae myfyrwyr o weddill y byd i’n sector addysg uwch -allforyn allweddol i’n gwlad – a dyna pam rydym ni eisiau cael tystiolaeth annibynnol a chadarn ar sail eu gwerth a’u heffaith.”

Casgliad data

Mae’r lansiad yn cyd-daro â chyhoeddiad casgliad data ‘gwiriadau ymadawiad’ gan y Swyddfa Gartref – system gafodd ei chyflwyno i ddilyn ôl y miliynau o deithwyr sydd yn gadael gwledydd Prydain bob blwyddyn.

Mae disgwyl i’r data wynebu craffu dwys gan fod nifer wedi cwestiynu’r gwahaniaeth rhwng y nifer o bobol sydd yn teithio i Brydain i astudio, a’r nifer sydd yn ymadael.