Adeilad Cledwyn pan oedd yn newydd (Archifau Prifysgol Aberystwyth)
Mae’r adeilad cynta’ i gael ei godi ar gampws ‘newydd’ Prifysgol Aberystwyth wedi cael statws gwarchod swyddogol.

Mae Adeilad Cledwyn, a gafodd ei gynllunio gan y pensaer enwog Syr Percy Thomas, wedi ei restru yn adeilad Graddfa II gan y corff hanes, Cadw – mae’n golygu bod cyfyngiadau ar allu neb i’w addasu.

Percy Thomas oedd wedi paratoi cynlluniau Campws Penglais yn 1935, ar y llethr uwchben y dref, a chafodd ei benodi’n bensaer ar sawl un o adeiladau amlwg y brifysgol gan gynnwys Pantycelyn.

“Pwysigrwydd hanesyddol”

Agorodd Adeilad Cledwyn ei drysau am y tro cyntaf yn 1937 a bu’n gartref i Orsaf Fridio Planhigion Cymru ac i Adran Economeg Amaethyddol y Brifysgol.

Cafodd ei ailenwi ar ôl y gwleidydd Llafur, Cledwyn Hughes, a fu’n Llywydd ar Goleg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth o 1976 tan 1985.

“R’yn ni’n wirioneddol falch bod Cadw wedi rhoi statws cofrestredig Gradd II i Adeilad Cledwyn,” meddai Andrew Thomas, Rheolwr Gwella Adeiladau Hanesyddol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Mae hynny’n adlewyrchu ei bwysigrwydd pensaernïol a hanesyddol. Mae Adeilad Cledwyn yn awr yn ymuno â nifer o adeiladau arwyddocaol yn ystâd y Brifysgol, gan gynnwys yr Hen Goleg, wrth gwrs, yr adeilad eiconig Gradd I ar lan y môr.”

Percy Thomas a Chymru

Er mai yn Durham, Lloegr, y cafodd Percy Thomas ei eni a’i fagu, fe wnaeth lawer o’i waith pwysica’ yng Nghymru.

Roedd ei adeiladau’n cynnwys y Deml Heddwch yng Nghaerdydd a Neuadd y Ddinas Abertawe.