Fe allai astudio safleoedd tirlenwi sbwriel arwain at gynhyrchu tanwydd mwy effeithlon, yn ôl biolegwyr o Brifysgol Bangor.

Yn ôl James McDonald, o Ysgol Gwyddorau Biolegol y coleg ar y bryn, mae yna “gryn symbyliad” i wyddonwyr i ddod o hyd i ensymau newydd – protinau sy’n cyflymu adweithiau cemegol – ac mae tomenni sbwriel yn un lle posib i chwilio amdanyn nhw.

Trwy astudio safleoedd tirlenwi sbwriel mae’n bosib y gall gwyddonwyr ddod o hyd i ensymau a allai arwain at gynhyrchu biodanwydd gwell.

Papur ymchwil

Mae’n gwneud ei sylwadau wrth i wyddonwyr prifysgol Bangor a Lerpwl gyhoeddi papur ymchwil newydd ar y cyd.

Yn y papur mae’r awduron yn disgrifio sut y gwnaethon nhw ddefnyddio hylif o safle tirlenwi er mwyn pydru cotwm.