Malala Yousafzai
Mae’r ymgyrchydd 20 oed, Malala Yousafzai, wedi dweud ei bod yn edrych ymlaen at fynd i’r brifysgol wedi iddi ennill lle ym Mhrifysgol Rhydychen.

Fe wnaeth yr enillydd Gwobr Heddwch Nobel drydar llun o’r cadarnhad y bydd yn astudio Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg.

Bu bron iddi farw yn 2012 ar ôl cael ei saethu gan y Taliban ym Mhacistan am iddi ymgyrchu dros hawliau merched i gael addysg.

Dywedodd ar Twitter, “Edrych ymlaen at fynd i Rydychen!! Da iawn i’r holl fyfyrwyr Safon Uwch – y flwyddyn anoddaf. Dymuniadau gorau ar gyfer y dyfodol!”