Mae nifer cynyddol o bobol ifanc yn chwilio am gymorth er mwyn ymdopi â phwysau canlyniadau arholiadau, yn ôl ystadegau newydd.

Yn ôl ffigyrau’r elusen NSPCC, fe ddarparodd eu gwasanaeth Childline dros 1,000 o sesiynau cwnsela yn ystod 2016/2017 i bobol oedd yn pryderu am arholiadau.

Mae hyn yn gynnydd o 21% o gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol.

Cafodd 110 o’r sesiynau cwnsela yma eu cynnal gan wirfoddolwyr y llinell gymorth mewn dwy ganolfan yng Nghymru – yng Nghaerdydd a Phrestatyn.

Daw’r ystadegau ddiwrnod cyn y bydd pobol ifanc yn eu harddegau ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn derbyn eu canlyniadau lefel A.

Mae’n debyg yr oedd nifer o bobol ifanc bu’n siarad â chwnsleriaid, yn teimlo’n isel a’n bryderus, ac yn poeni am ymateb eu rhieni i’w canlyniadau.

Peidiwch â digalonni

“Mae aros am ganlyniadau arholiadau yn medru bod yn gyfnod llawn pryder i bobol ifanc ac yn medru arwain at nifer yn cael trafferth ymdopi,” meddai Pennaeth NSPCC Cymru, Des Mannion.

“Rydym yn annog pobol ifanc i beidio â digalonni os nad ydyn nhw’n derbyn y canlyniadau oedden nhw wedi dymuno.

“Mae’n bwysig eu bod yn cofio bod ganddyn nhw lawer o opsiynau, a bod siarad â ffrind neu oedolyn gallan nhw ymddiried yn medru ei helpu i weld pethau’n glir.”