Mae prosiect Cymraeg i blant o Sir y Fflint wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau’r Loteri Genedlaethol.

Prosiect Magi Ann yw’r unig brosiect Cymraeg i gyrraedd y rownd derfynol eleni  ac mae’n cystadlu yn erbyn chwe phrosiect arall yn y categori Prosiect Addysg Gorau.

Cyfres o lyfrau Cymraeg i blant oedd straeon Magi Ann a’i ffrindiau yn wreiddiol a gafodd eu hysgrifennu yn y 1970au gan Mena Evans, athrawes yn Ysgol Gwenffrwd yn Nhreffynnon.

Mae’r gyfres bellach wedi’i datblygu yn chwe ap ar ôl i Fenter Iaith Fflint a Wrecsam ddefnyddio arian gan y Loteri Genedlaethol, gyda’r apiau’n cael eu lawrlwytho dros 99,000 o weithiau.

Mae’r prosiectau sydd yn y rownd derfynol yn cystadlu am nifer y pleidleisiau cyhoeddus a bydd yr enillydd yn cael gwobr ariannol o £5,000 i wario ar y prosiect.

“Mae’r straeon hyn yn adnodd pwysig i blant y mae’r Gymraeg yn famiaith iddynt ynghyd â dysgwyr. Maen nhw hefyd yn ddefnyddiol i rieni ac athrawon nad ydynt yn rhugl,” meddai Gill Stephen, Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam.

“Mae’n hawdd pleidleisio, felly rydym yn gobeithio y bydd pobl yn ein cefnogi ni, ac yn ein helpu i gael cydnabyddiaeth genedlaethol am y gwaith pwysig hwn, yn ogystal â chodi proffil y Gymraeg yn genedlaethol!”

Pleidleisio

Gallwch bleidleisio dros ap Magi Ann ar wefan y Loteri, drwy ffonio 0844 836 9680 neu ar Twitter gydar hashnod #GLGMagiAnn.

Bydd y cyfnod pleidleisio yn cau am hanner nos, dydd Iau, 27 Gorffennaf.