Llun: PA
Nid yw bwlio mewn ysgolion yn cael ei gymryd o ddifrif ac fe ddylai Llywodraeth Cymru osod dyletswydd statudol ar ysgolion i gofnodi pob achos o fwlio.

Dyna fydd rhai o argymhellion adroddiad gan Gomisiynydd Plant Cymru, yr Athro Sally Holland heddiw.

Cafodd mwy na 2,000 o ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd a 300 o bobl broffesiynol ym myd addysg, oedd yn cynrychioli’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, eu holi fel rhan o’r ymgynghoriad.

Canfu’r ymgynghoriad bod yna ddiffyg cysondeb yn y modd mae ysgolion a’r awdurdodau yn delio gyda, a chofnodi achosion o fwlio, gan arwain at rai plant yn teimlo’n ynysig ac eraill yn ansicr am beth i’w wneud os ydyn nhw’n ymwybodol bod rhywun yn cael eu bwlio.

Mae seiberfwlio yn “fater o bwys” ac mae pobl ifanc hefyd yn cael eu targedu oherwydd eu ffydd, hil, a rhywioldeb  meddai’r adroddiad.

Yn ei hadroddiad, “Sam’s Story”, sy’n cael ei lansio heddiw, mae’r Athro Sally Holland yn dweud bod rhai ysgolion yn amharod i gofnodi achosion o fwlio oherwydd pryder y byddan nhw’n cael enw drwg.

Dywed bod bwlio yn gallu cael “effaith drychinebus” ar fywyd plentyn a bod gweithredu uniongyrchol gan ysgolion yn cael ei ystyried yn bwysig iawn gan blant.

Meddai’r Athro Sally Holland: “Rydyn ni mewn cyfnod hanfodol o ran addysg yng Nghymru, gan fod y gwaith o ddiwygio’r cwricwlwm yn mynd rhagddo a’r canllawiau hirsefydlog ar fwlio’n cael eu hadolygu o’r diwedd.

“Diben yr adroddiad hwn yw amlygu effaith wirioneddol cael eu bwlio ar fywydau plant a sicrhau bod y negeseuon cryf hyn yn cyfrannu at ffurfio’r cwricwlwm newydd, hyfforddiant athrawon a diwygio’r canllawiau gwrthfwlio.”

Polisïau gwrth-fwlio

“Fe fyddwn ni yn ystyried adroddiad y Comisiynydd Plant ac mi fydd hyn yn bwydo mewn i’n hadolygiad o ganllawiau gwrth-fwlio,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Dydyn ni ddim yn derbyn unrhyw fwlio o fewn sustem addysg Cymru. Rydym yn disgwyl bod ysgolion a gwasanaethau addysg yn ei gwneud hi’n glir fod pob math o fwlio yn hollol annerbyniol, ac rydym yn disgwyl eu bod yn ymdrin â phob achos gan sicrhau bod disgyblion yn cael eu cefnogi.”

“Mae’n rhaid i bob ysgol yng Nghymru sicrhau bod ganddyn nhw bolisi ymddygiad. Dylai fod strategaethau effeithiol i fynd i’r afael â bwlio, yn graidd i’r polisi yma a dylai gael ei weithredu gan bob ysgol.”