Bydd deiseb yn galw am agor deg ysgol gynradd Gymraeg newydd yng Nghaerdydd dros y pum mlynedd nesaf, yn cael ei chyflwyno i arweinydd cyngor y brifddinas heddiw.

Mae’r ddeiseb wedi ei lofnodi gan dros ddwy fil o bobol, ac mae ei chyflwyniad yn cyd-daro â chyhoeddiad strategaeth Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Wedi iddyn nhw gyflwyno’r ddeiseb mi fydd aelodau o Gell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith yn cwrdd ag Arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, er mwyn trafod y ddogfen.

“Testun balchder”

“Mae’n destun balchder fod cymaint o bobl wedi llofnodi’r ddeiseb,” meddai Cadeirydd Cell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith, Owain Rhys Lewis.

“O fynd ar hyd a lled y brifddinas i gasglu llofnodion, mae aelodau’r Gymdeithas wedi clywed yn glir bod cefnogaeth gadarn i’n galwad, a hynny gan bobl o bob math o gefndir. Dyhead clir pobl y ddinas yw clywed y Gymraeg fel iaith ar dafodau pob un disgybl.”