Mae disgwyl i ganlyniadau TGAU disgyblion yng Nghymru mewn pynciau craidd eleni fod yn is nag erioed o’r blaen, yn ôl rhaglen Sunday Politics Wales y BBC.

Mae’r canlyniadau wedi cael eu darogan ar sail y ffaith fod rhai ymgeiswyr yn sefyll arholiadau mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg ym mlwyddyn 10 – flwyddyn yn gynt na’r arfer.

Mae’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams wedi rhybuddio bod ysgolion yn peryglu canlyniadau’r disgyblion drwy eu cofrestru nhw flwyddyn o flaen eu hamser, a pheidio â’u cofrestru eto ym mlwyddyn 11.

Mae hi wedi awgrymu y gallai hi atal ysgolion rhag cofrestru blynyddoedd cyfan o ddisgyblion ym mlwyddyn 10 y flwyddyn nesaf.

Mae disgwyl iddi glywed tystiolaeth ymchwiliad yn yr hydref cyn penderfynu beth fydd y cam nesaf.

Arholiadau newydd

Am y tro cyntaf eleni, safodd disgyblion yng Nghymru arholiadau TGAU gwahanol i’w cyfoedion yn Lloegr.

Mae’n bosib fod hynny wedi cael effaith ar y canlyniadau, meddai Kirsty Williams.

“Pan fyddwch chi’n cyflwyno arholiadau a chymwysterau newydd, gallwch chi ddisgwyl canlyniadau is oherwydd mae’n bosib na fydd athrawon yr un mor gyfarwydd â nhw ac wrth i athrawon ymgyfarwyddo â’r cwrs, fe welwch chi’r canlyniadau’n gwella unwaith eto.”

Pryderon

Ym mis Mai, rhybuddiodd Cyfarwyddwr Addysg Llywodraeth Cymru, Steve Davies fod rhai ysgolion yn manteisio ar y drefn bresennol drwy gofrestru disgyblion yn gynnar – roedd y Gweinidog Addysg Huw Lewis wedi codi pryderon tebyg yn 2013.

Mynegodd swyddogion bryder hefyd am y niferoedd oedd yn cael eu cofrestru’n gynnar.

Mae Kirsty Williams hefyd wedi mynegi pryder fod ceisio sicrhau bod pob disgybl yn ennill gradd C drwy eu cofrestru’n gynnar wedi arwain at “ganlyniadau anfwriadol”, sef bod rhai disgyblion a allai ennill gradd lawer uwch yn tangyflawni.

“Yr hyn ry’n ni’n ei weld yw newid mawr yn y ffordd y caiff disgyblion eu cofrestru ar gyfer arholiadau. Ry’n ni’n gweld niferoedd cynyddol o ddisgyblion yn cael eu cofrestru’n gynnar ar gyfer cymwysterau ac mae’r cyfuniad hwnnw o ffactorau’n golygu y gallai’r canlyniadau ar y cyfan fod yn is yn yr haf.

“Yr hyn rwy’n gofidio amdano yw fod plant sydd â’r potensial i ennill A*, A neu B ar ddiwedd cwrs dwy flynedd yn gorfod bodloni ar C oherwydd maen nhw’n sefyll yr arholiad yn gynnar heb gael eu cofrestru eto.

“Dw i am i blant gyrraedd eu potensial yn yr ysgol. Dw i am i gofrestru’n gynnar fod ar gael, ond dim ond i blant a fydd yn elwa o wneud hynny.

“Pan dw i’n gweld cynifer o ddisgyblion yn cael eu cofrestru yn gynnar, mae hynny’n destun gofid i fi.”

‘Esgeuluso’r plant disgleiriaf’

Wrth siarad â golwg360, dywedodd athro Mathemateg profiadol nad oedd am gael ei enwi: “Tra bod pwyslais Llywodraeth Cymru wrth farnu ysgolion ar sicrhau bod disgyblion yn ennill pum gradd C neu uwch mewn pump TGAU neu fwy (gan gynnwys Mathemateg a Chymraeg/Saesneg), yna fe fydd ysgolion yn rhoi mwy nag un cyfle i ddisgyblion sefyll arholiadau er mwyn ennill y gradd C honno.

“Ond unwaith maen nhw’n ennill gradd C, mae adnoddau’n aml yn cael eu dargyfeirio i weddill y disgyblion yn y flwyddyn sydd heb ennill gradd C eto, ar draul y rhai y dylid eu herio i ennill graddau uwch.

“Mae’r pwysau ar athrawon y pynciau craidd wedi cynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, gan fod craffu cyson arnom gan gonsortia lleol.

“Mae eu pwyslais nhw ar gyfer pynciau craidd ar sicrhau bod disgyblion yn ennill gradd C neu uwch, fel bod ein holl sylw, egni ac amser ar ddisgyblion sydd ar y ffin rhwng C a D.

“Mae’n destun pryder bod ein disgyblion disgleiriaf ni yng Nghymru’n cael eu hesgeuluso.”