Kirsty Williams (Llun Democratiaid Rhyddfrydol)
Mae’r Ysgrifennydd Addysg wedi galw ar bob ysgol yng Nghymru i gadw llygad am achosion o FGM – anffurfio organau rhywiol marched.
Mae Kirsty Williams yn galw ar benaethiaid i gadw llygad ar unrhyw un a allai fod yn dioddef o’r weithred, sy’n anghyfreithlon yng ngwledydd Prydain.
Yn ôl yr Ysgrifennydd Addysg, mae gan ysgolion rôl bwysig yn adnabod dioddefwyr tebygol ac fe rybnuddiodd y gallai merched fod dan fygythiad arbennig adeg gwyliau ysgol.
Y peryg, meddai, yw y bydd y plant yn cael eu cludo dramor er mwyn cyflawni’r weithred.
Cefndir
FGM yw’r weithred o anffurfio organau rhywiol merched drwy eu torri i ffwrdd yn llwyr neu eu newid yn fwriadol.
Mae’n arfer traddodiadol sy;’n cael ei orfodi ar ferched sydd fel arfer yn blant neu yn eu harddegau mewn cymunedau ar draws rhannau o Affrica, y Dwyrain Canol ac Asia.
Yr amcangyfrif yw bod 137,000 o ferched a menywod yn cael eu heffeithio gan FGM yng Nghymru a Lloegr.
“Rôl bwysig” ysgolion
“Rwy wedi ysgrifennu at ysgolion i ofyn am eu cymorth er mwyn helpu i gael gwared ar y math yma o drais ffiaidd yn erbyn menywod a merched,” meddai Kirsty Williams.
“Mae’n hollbwysig ein bod ni i gyd yn adnabod yr arwyddion sy’n rhybudd y gallai plentyn fod mewn perygl.
“Rhaid i staff ysgolion a cholegau chwarae rôl hollbwysig yn diogelu pobl ifanc rhag camdriniaeth. Mae’n hanfodol, felly, eu bod yn ymwybodol iawn o arwyddion anffurfio organau cenhedlu benywod a pha gamau y dylid eu cymryd os oes ganddyn nhw bryderon.”
Cam-drin “annerbyniol”
“Mae’n bwysig iawn bod staff yn wyliadwrus wrth edrych am arwydd o anffurfio organau cenhedlu benywod ar ôl gwyliau’r ysgol ac i adrodd ar unrhyw beth a all fod yn amheus i’r gweithiwr proffesiynol perthnasol.
“Rwy am i ni i gyd fod yn fwy effro i’r cam-drin annerbyniol hwn, fel y gallwn ni roi stop ar anffurfio organau cenhedlu benywod yng Nghymru.”