Mae Hindwiaid Cymru’n galw am yr hawl i gael gwyliau i ffwrdd o’r ysgol yng Nghymru i ddathlu Diwali – eu gŵyl fwyaf – ar Hydref 19 eleni.

Yn ôl un o arweinwyr y ffydd yn yr Unol Daleithiau, Rajan Zed, byddai’n “gam i’r cyfeiriad cywir” gan ei bod yn “bwysig diwallu anghenion crefyddol ac ysbrydol disgyblion Hindwaidd”.

Hindwiaeth yw’r crefydd hynaf yn y byd, a’r drydedd crefydd fwyaf yn y byd.

Dywedodd Rajan Zed, Llywydd y Gymdeithas Hindwiaeth Fyd-eang, y dylai ysgolion Cymru barchu’r ffydd drwy osgoi cynnal gwersi yn ystod Diwali.

“Dydyn ni ddim am i’n myfyrwyr fod o dan anfantais di-angen am fethu profion neu arholiadau neu bapurau, aseiniadau, gwaith dosbarth a.y.b. drwy gymryd diwrnod i ffwrdd i nodi Diwali.

“Dylid nodi gwyliau pob un o’r prif grefyddau, ac ni ddylid cosbi unrhyw un am arddel ei ffydd.”

‘Codi ymwybyddiaeth’

Dywedodd fod codi ymwybyddiaeth o grefyddau eraill yng Nghymru ymhlith disgyblion yn eu gwneud yn “ddinasyddion goleuedig yfory”.

Fe alwodd ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones a’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams i ddechrau’r broses o ychwanegu Diwali at y rhestr o wyliau cenedlaethol yng Nghymru, ac annog ysgolion i ddilyn eu hesiampl.

“Mae gwyliau crefyddol yn annwyl iawn ac yn gysegredig i Hindwiaid.

“Mae Diwali, sef gŵyl y goleuadau, yn anelu i waredu’r tywyllwch a goleuo bywydau ac mae’n symbol o’r da yn trechu’r drwg.”