Mae mwy o arian yn mynd i fod ar gael i hybu’r Gymraeg ym myd addysg wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi buddsoddiad ychwanegol o £4.2m.
Yn rhan o hyn, fe fyddan nhw’n treialu cwrs blwyddyn ar ffurf ‘cynllun sabothol’ lle gall athrawon cynradd fanteisio ar gwrs i ddatblygu eu sgiliau iaith.
Maen nhw hefyd am ddefnyddio’r arian i ddenu mwy o raddedigion cyfrwng Cymraeg i fyd addysg, cefnogi rhaglenni i ddatblygu’r iaith a neilltuo arian i ddatblygu ymchwil i addysg Gymraeg.
Dosbarthu’r cyllid
Fe fydd y £4.2m yn cael ei rannu fel hyn:
£1,200,000 i greu cwrs blwyddyn i athrawon ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
£600,000 i helpu ysgolion cyfrwng Saesneg wella sgiliau Cymraeg dysgwyr.
£50,000 i ddenu graddedigion cyfrwng Cymraeg i fod yn athrawon ac i addysgu Cymraeg fel pwnc.
£2,055,000 i’r consortia addysgu i gefnogi dysgu proffesiynol ar gyfer y Gymraeg ac ymarferwyr cyfrwng Cymraeg.
£200,000 at ddibenion ymchwil ym maes addysg cyfrwng Cymraeg.
‘Hanfodol’
“Mae datblygu gweithlu o athrawon i addysgu’r Gymraeg ac i gyflwyno addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol i greu mwy o siaradwyr Cymraeg a bydd yn flaenoriaeth dros y pum mlynedd nesaf,” meddai’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams.
“Mae’r buddsoddiad yma yn alinio gydag ein cynigion am safonau addysg newydd fydd yn rhoi cyfle i athrawon ddatblygu eu sgiliau drwy gydol eu gyrfa i fodloni anghenion y system addysg.”