Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae Aelodau Cynulliad wedi cefnogi deiseb gan ddwy ferch ysgol sy’n galw am hepgor gwasanaethau crefyddol mewn ysgolion.
Cafodd y ddeiseb ei chyflwyno i’r Pwyllgor Deisebau gan ddau ddisgybl o Ysgol Glantaf, Caerdydd sef Rhiannon Shipton a Lily McAllister-Sutton, sy’n 15 oed.
Mae’r ddeiseb yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i basio deddf a fydd yn cael gwared ar y rhwymedigaeth ar ysgolion i gynnal gweithredoedd addoli crefyddol.
Mae Rhiannon Shipton a Lily McAllister-Sutton yn dadlau nad ydyn nhw’n credu mewn Duw a’i bod yn bryd i’w hysgol nhw, ac eraill yng Nghymru, fabwysiadu agweddau modern.
Roedd 1,333 o bobol wedi llofnodi’r ddeiseb. Ar ol cael ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau fe benderfynwyd ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams i ofyn a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried adolygu’r gyfraith a’r canllawiau presennol ynghylch addoli ar y cyd, ac a oes ystyriaeth wedi’i rhoi i p’un a yw’r gofynion presennol yn cyd-fynd â chyfraith hawliau dynol.
Mae’r pwyllgor hefyd wedi derbyn deiseb â 2,231 llofnod gan Iraj Irfan, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadw’r sefyllfa gyfreithiol fel y mae ar hyn o bryd.
Gwasanaethau
Ar hyn o bryd mae hi’n ofynnol dan gyfraith gwlad bod ysgolion yn cynnal sesiynau addoli ar y cyd bob dydd.
Er hyn, yn ôl y gyfraith mae modd i rieni wneud cais i’w plant gael eu tynnu allan o sesiynau addoli ar y cyd ac mae’n rhaid i ysgolion gytuno i geisiadau o’r fath bob amser.