Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod polisi newydd sy’n golygu y bydd yn rhaid i gynghorau sir ystyried pob opsiwn posib cyn cau ysgolion gwledig.

Mae’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi newid y Cod Trefniadaeth Ysgolion sy’n rhoi arweiniad i gynghorau wrth wneud penderfyniadau am ysgolion.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu’r penderfyniad, gan ddweud y bydd yn “rhoi gobaith newydd i gymunedau.”

Mae’r canllawiau newydd yn cynnwys gwneud hi’n ofynnol i gynigion i gau ysgol wledig nodi rhesymau clir a phenodol dros wneud hynny.

Bydd angen rhoi manylion fel effaith ar y gymuned a’r effaith debygol ar drefniadau teithio ac egluro pam mai cau’r ysgol yw’r cam mwyaf priodol i’w gymryd.

Bydd hefyd yn rhaid i gynghorau bellach ystyried ffedereiddio ysgolion fel dewis amgen ym mhob achos a rhoi gwybod i’r gymuned leol pan fo cyngor yn ystyried cau ysgol.

Diffinio ysgol wledig

Mae Kirsty Williams hefyd wedi cyhoeddi y bydd diffiniad o ysgol wledig yn cael ei ddatblygu am y tro cyntaf erioed, gyda disgwyl i Lywodraeth Cymru’n llunio rhestr o ysgolion gwledig.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Addysg, mae’n adolygu’r cod gan nad yw “mynd i’r afael â lleoedd gwag o reidrwydd yn golygu cau ysgolion”.

“Mae ysgolion gwledig yn wynebu problemau unigryw a dw i eisiau sicrhau bod y disgyblion sy’n eu mynychu yn cael yr un cyfleoedd â phlant mewn ardaloedd eraill,” meddai.

“Mae’r cynigion hyn yn cryfhau’r Cod Trefniadaeth Ysgolion er mwyn sicrhau bod cynghorau’n gwneud popeth yn eu gallu i gadw ysgol wledig ar agor cyn penderfynu ymgynghori ynghylch cynnig i gau’r ysgol.

“Mae ysgolion gwledig yn rhan ganolog o fywyd y gymuned. Oherwydd hyn, dw i eisiau gwneud yn sicr bod yr ysgolion hyn yn cael gwrandawiad teg pan fo’u dyfodol yn cael ei ystyried.

“Bydd y cynlluniau hyn yn chwarae rhan allweddol yn ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau ac ehangu cyfleoedd i bob un o’n pobl ifanc.”

Y llynedd, cafodd grant newydd gwerth £2.5 miliwn y flwyddyn ei gyhoeddi ar gyfer ysgolion bach ac ysgolion gwledig.

Galw ar ddatblygu ysgolion sydd wedi’u “hesgeuluso”

Wrth ymateb, dywedodd Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith, “Mae’r Gweinidog yn dweud yn glir fod rhagdyb yn erbyn cau ysgolion gwledig a rhaid fydd cynnig achos eithriadol i gyfiawnhau eu cau.

“Dyma droi’r sefyllfa bresennol ar ei phen a rhoi gobaith newydd i gymunedau sydd wedi bod yn ymdrech ers amser maith tan gysgod y fwyell.

“Galwn ar awdurdodau lleol i fynd ati’n gadarnhaol yn awr i ddatblygu’r ysgolion, sydd wedi eu hesgeuluso ers blynyddoedd, i’w llawn botensial fel canolfannau adfywio’r cymunedau pentrefol y maent yn eu gwasanaethu.

“Dylai hyn gynnwys dysgu’r iaith a chymhathu mewnfudwyr fel y gall teuluoedd cyfan o newydd-ddyfodiaid chwarae rhan lawn ym mywyd y gymuned leol.”

Croeso gofalus

Mae Plaid Cymru hefyd wedi croesawu’r newid ond mae’n rhybuddio y bydd yn rhaid “cydnabod y gost ychwanegol i gynghorau mewn cyfnod o gyni/toriadau.”

“Byddaf yn gofyn am sicrwydd na fydd y Côd newydd yma’n golygu arian yn cael ei golli i’n hysgolion mwy trefol. Mae £2.5m yn gyfystyr â £110,000 i bob sir yng Nghymru – eith hynny ddim yn bell iawn,” meddai Llŷr Gruffydd, llefarydd addysg Plaid Cymru.