Cynllun ar gyfer Ysgol Newydd Llansawel
Mae cynghorwyr Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer ysgol gynradd newydd yn Llansawel.

Bydd Ysgol Newydd Llansawel yn cael ei hadeiladu ar hen safle Ysgol Gyfun Cwrt Sart ac yn darparu lle i 420 o ddisgyblion yn ogystal â lle meithrin i 75 o ddisgyblion.

Mae disgwyl i waith adeiladu’r prosiect gwerth £7m ddechrau’r mis nesaf gyda’r drysau’n agor i ddisgyblion ym mis Medi 2018.

Hon fydd yr ysgol diweddaraf i gael ei sefydlu dan Raglen Strategol Gwella Ysgolion awdrudod lleol Castell-nedd Port Talbot – rhaglen sydd wedi ei ariannu’n rhannol gan grantiau Llywodraeth Cymru.

Ymrwymiad i addysg

“Er gwaethaf y pwysau cyllidebol sydd arnom, mae’r buddsoddiad yn yr ysgol hon a llawer o ysgolion eraill yn y fwrdeistref sirol yn dangos ein hymrwymiad i addysg, gan sicrhau bod yr ysgolion iawn yn y lleoedd iawn a’u bod yn addas ar gyfer dysgwyr yr 21ain ganrif,” meddai’r Cynghorydd Peter Rees.

“Mae ein Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion yn ddatganiad gwirioneddol o’n cred yn ein plant a’n pobl ifanc, gan roi’r dechrau gorau mewn bywyd iddynt a’u helpu i fod y gorau y gallant fod.”