Llun: Cyfrif Twitter Llywodraeth Cymru
Bydd ysgolion Cymreig yn derbyn buddsoddiad gwerth £1.3 miliwn i hybu sgiliau codio cyfrifiadurol disgyblion.

Bydd yr hwb ariannol gan Lywodraeth Cymru hefyd yn cyfrannu at ehangu ar y 300 o glybiau dysgu codio sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru.

Cod sy’n galluogi pobol i greu meddalwedd ar gyfer dyfeisiau cyfrifiadurol a gobaith y Llywodraeth yw dysgu plant Cymru i fod yn “awduron technoleg.”

Mae tua 1.5 miliwn o swyddi yn y sector digidol ym Mhrydain gyda 400,000 ohonyn nhw yn cynnwys codio – mae disgwyl i’r nifer godi i 500,000 erbyn 2020.

“Cracio’r cod”

“Pan fyddwn yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, neu ap neu gyfrifiadur rydyn ni’n defnyddio systemau a gafodd eu dyfeisio â chod,” meddai’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams.

“Mae’n rhan annatod o’n byd cyfoes a dw i eisiau gwneud yn siŵr fod cynifer â phosibl o’n pobl ifanc ni’n dysgu amdano wrth iddyn nhw ddatblygu’u sgiliau digidol. Byddwn yn gweithio gydag athrawon, y consortia addysg ac eraill i’n helpu ni i gracio’r cod i’n holl ddisgyblion.”