Ar gyfartaledd mae myfyrwyr Cymru yn gadael addysg â dyledion o £19,280 yr un, sydd yn is na chyfartaledd Gogledd Iwerddon a Lloegr ond yn uwch na chyfartaledd yr Alban.

Ac mae cyfanswm dyledion myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Cymru yn £3.7 biliwn.

Yn ôl data’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr mae ffioedd dysgu a chostau byw wedi cynyddu 12% yn ystod 2016/17 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Ar ddiwedd 2016/17 roedd 304,000 o bobl yng Nghymru oedd wedi cymryd benthyciadau ar gyfer addysg uwch ac erbyn Ebrill 2017 roedd dros 41,000 o bobl wedi ad-dalu eu dyledion yn llawn.

Mae’n rhaid i raddedigion ddechrau talu eu dyledion unwaith maen nhw’n dechrau ennill cyflog o £21,000, ond ar ôl 30 mlynedd mae unrhyw ddyled sydd yn weddill yn cael ei ddileu.