Mae ymgyrchwyr iaith wedi ysgrifennu at Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe i ofyn pam y mae 19 o swyddi academaidd da yn cael eu hysbysebu heb fod y Gymraeg yn sgil hanfodol ar gyfer yr un ohonyn nhw.

Mae’r swyddi o fewn Yr Ysgol Reolaeth yn amrywio o’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol sydd a chyflog o £48,000 i £56,000 y flwyddyn, i Ddarlithwyr a Swyddogion Ymchwil (cyflog £33,000 i £38,000); Uwch Ddarlithwyr (cyflog o £39,000-£47,000); Pennaeth Cyswllt (cyflog £60,000 i £63,000); a sawl Athro Ymchwil ar gyflogau rhwng £48,000 a £56,000 y flwyddyn.

Y dyddiad cau ar gyfer pob un o’r swyddi ydi Mehefin 11 eleni, ond dydi’r disgrifiadau swyddi sydd i’w cael ar wefan Prifysgol Abertawe ddim yn crybwyll y gallu i gyfathrebu na gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn Academi Morgan.

Mae llythyr Cymdeithas yr Iaith Gymareg wedi’i ysgrifennu gan David Wyn Williams, cadeirydd rhanbarth Morgannwg Gwent, ac mae’n dweud:

“Hoffem wybod beth oedd sail y penderfyniad i hysbysebu cymaint o swyddi academaidd mewn un ysgol heb weld yr angen i gyfran ohonynt fod yn rhai ‘Cymraeg yn hanfodol’.

“O ystyried yr holl ddatblygu mewn addysg cyfrwng Cymraeg ar lefel addysg uwch yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda chyfraniad pwysig y Coleg Cymraeg, byddem yn disgwyl erbyn hyn i Brifysgol Abertawe ddeall pwysigrwydd datblygu gweithlu academaidd sydd â sgiliau priodol yn y Gymraeg.

“Mae unrhyw ymgyrch recriwtio helaeth wrth gwrs yn gyfle gwych i sicrhau bod y sgiliau priodol ar gael.”