Mae myfyrwraig y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd yn dweud iddi hi a’i chyd-fyfyrwyr gael eu “trin yn annheg” yn ystod arholiad, wrth i’r brifysgol fethu â darparu papurau cyfrwng Cymraeg iddyn nhw.

Wrth sefyll arholiad ‘Sylfaenu’r Gyfraith’ ar Fai 23 (dydd Mawrth yr wythnos hon), fe fu’n rhaid i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg wneud yr arholiad â phapur cwestiwn Saesneg gan ysgrifennu eu atebion yn Gymraeg – er eu bod nhw wedi bod i ddarlithoedd Cymraeg ac i fod i dderbyn papurau Cymraeg.

Yn ôl myfyrwraig o Lanelli, Gwenno Evans, sydd wedi dewis astudio’i chwrs cyfan trwy gyfrwng y Gymraeg, roedd staff yn dweud nad oedd “dim papurau Cymraeg wedi cael eu hargraffu a bod y swyddfa heb anfon rhai Cymraeg” i’r ystafell arholiad.

“O’n i’n dadlau yn dweud ‘gallwn ni gael un Gymraeg?’ a dywedon nhw ‘Can’t you do it in English?’” meddai Gwenno Evans wedyn wrth golwg360. “Oedd hi’n llawer anoddach ateb y cwestiynau gan fod yr eirfa yn y cwestiynau ac oedd rhaid i ni gyfieithu pob dim.”

Ddwyawr i mewn i’r arholiad – hanner awr cyn bod yr amser ar ben – ac ar ôl i “bawb gwyno”, meddai Gwenno Evans, fe dderbyniodd rhai o’r myfyrwyr bapurau Cymraeg. Ond fe aeth hi, ynghyd â “sawl myfyriwr arall”, meddai, heb bapur Cymraeg trwy gydol yr arholiad.

Wrth ddosbarthu’r papurau Cymraeg ar y funud olaf, mae Gwenno Evans yn dweud oruchwylwyr yr arholiad ddweud “At least this will cover our backs”. Ond ni chafodd y myfyrwyr cyfrwng Cymraeg unrhyw amser ychwanegol ar gyfer ateb y papur.

“Amharchus ofnadwy”

“Mae e’n amharchus ofnadwy,” meddai Gwenno Evans, “yn enwedig y ffordd yr oedd goruchwylwyr yr arholiad yn ein trin ni – dim ond oherwydd ein bod ni’n astudio trwy’r Gymraeg.

“Mae’r Gymraeg yn bwysig, ond does dim hyd yn oed gyda nhw’r amser i argraffu papur Cymraeg,” meddai wedyn. “Mae’n brifo, a dweud y gwir. R’yn ni i gyd yn teimlo’r un peth, mae’n arholiad ni wedi cael effeithio oherwydd ein bod ni’n astudio trwy’r Gymraeg.”

Nid dyma’r tro cyntaf i Gwenno Evans wynebu sefyllfa o’r fath ac mae’n debyg bu’n rhaid iddi ddechrau arholiad modiwl ‘Cyfraith Gyhoeddus’, pum munud yn hwyr ddydd Sadwrn gan nad oedd hi wedi derbyn papur cyfrwng Cymraeg.

Ymateb y Brifysgol

Mae Ysgol y Gyfraith Caerdydd wedi ymddiheuro ac wedi addo edrych i mewn i’r achos.

Hyd brynhawn dydd Iau, nid oedd Prifysgol Caerdydd wedi ymddiheuro’n swyddogol ond yn hytrach wedi ymateb i Gwenno Evans trwy wefan Twitter: “Ymddiheuriadau. Rydyn yn edrych i mewn i weld pam mae hyn wedi digwydd.”

Mewn ymateb i golwg360, mae’r brifysgol yn dweud: “Rydym yn ymwybodol o achosion unigol lle na chafodd myfyrwyr y Gyfraith bapurau arholiad Cymraeg ar ddechrau eu harholiad.

“Ymddiheurwn am y camgymeriad hwn ac am unrhyw anawsterau a achoswyd. Rydym yn ymchwilio i sut y digwyddodd y camgymeriad hwn fel mater o flaenoriaeth, ac rydym eisoes wedi cymryd camau i fynd i’r afael â’r mater.”