Mae rhaglen Llywodraeth Cymru i foderneiddio ysgolion yn “cael ei rheoli’n dda ar y cyfan” yn ôl adroddiad diweddaraf Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Dywed bod Llywodraeth Cymru “ar y trywydd iawn” ond yn ôl yr Archwilydd Cyffredinol bydd angen iddi “egluro rhai o’i disgwyliadau manwl” a “gwneud rhai newidiadau”.

Caiff sawl argymhelliad eu cyflwyno yn yr adroddiad ac yn ôl yr Archwilydd mae angen safoni prosiectau ymhellach ac angen sicrhau bod trefniadau’r rhaglen yn ddigonol gan fod newidiadau ar y gweill.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei rhaglen ‘Addysg ac Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain’ yn 2009 gyda’r nod o adeiladu ac ad-drefnu ysgolion ar hyd a lled Cymru.

Mae £1.5 biliwn wedi cael ei wario ar gam cyntaf y cynllun wnaeth ddechrau yn 2014, a hyd yma mae 59 o brosiectau o’r 169 prosiect cafodd eu cynllunio wedi eu cwblhau.

“Mwy i’w wneud”

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad wedi croesawu sylwadau’r Archwilydd Cyffredinol ond am weld Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer cam nesaf y rhaglen.

“Mae’n amlwg bod mwy i’w wneud i fynd i’r afael â chyflwr cyffredinol ac addasrwydd llawer o ysgolion yng Nghymru ac ar adeg pan fo arian cyhoeddus o dan bwysau parhaus,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Nick Ramsay AC.

“Gyda newidiadau sylweddol posibl ar gyfer y rhaglen ar y gorwel, mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn egluro’r sefyllfa gyllido cyn gynted ag y bo modd er mwyn rhoi amser i gynghorau a cholegau addysg bellach gael eu cynlluniau yn barod ar gyfer cam nesaf y rhaglen fydd yn dechrau yn 2019.”