Llun oddi ar wefan Prifysgol Warwick
Mae Prifysgol Warwick wedi dweud mai camgymeriad oedd yn gyfrifol am iddyn nhw wrthod derbyn cymhwyster Safon Uwch Cymraeg gan ddarpar-fyfyrwraig ar gyfer cwrs Hanes.

Ond mae llefarydd ar ran y brifysgol wedi dweud wrth golwg360 hefyd nad ydyn nhw’n derbyn Safon Uwch Cymraeg Ail Iaith gan ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf.

Daw’r datganiad yn dilyn neges ar wefan gymdeithasol Twitter gan fyfyrwraig o Abergele sy’n astudio ym Mhrifysgol Bangor. Ond mae’n ymddangos mai Cymraeg Iaith Gyntaf oedd y cymhwyster oedd gan yr ymgeisydd, ac nid Cymraeg Ail Iaith.

Mae’r brifysgol wedi cyfaddef iddyn nhw wneud “gwall” wrth brosesu’r cais.

Y cefndir

Dywedodd Elain Haf mewn trydariad ei bod yn “warthus nad yw Prifysgol Warwick yn cydnabod gwerth y Gymraeg fel pwnc Lefel A”.

Roedd ei neges yn cynnwys llun o gynnig ar y we oedd wedi cael ei wrthod gan rywun anhysbys.

Mae’r llun yn awgrymu bod angen tair Safon Uwch ar ymgeiswyr ar gyfer y cwrs, ond nad yw ystyriaeth yn cael ei rhoi i “Gymraeg, Astudiaethau Cyffredinol na Meddwl Beirniadol”.

Ond dydi’r dudalen sy’n rhoi manylion y cwrs ar wefan y brifysgol ddim yn dweud nad yw Cymraeg yn cael ei dderbyn fel pwnc. Y prif ofynion sy’n cael eu nodi yw tair A mewn Safon Uwch, gan gynnwys Hanes.

Ar dudalen Derbyniadau Prifysgol Warwick, does dim sôn am eithrio Cymraeg fel pwnc, ond mae’n nodi nad yw Bagloriaeth Cymru – fel sy’n wir am nifer o brifysgolion eraill Lloegr – yn cael ei chydnabod.

“Gwall”

Wrth ymateb i gais am ymateb gan golwg360, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Warwick mai “gwall” oedd yn gyfrifol am wrthod Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf gan ymgeisydd iaith gyntaf o Gymru.

“Mae Warwick wedi gwneud nifer o gynigion eleni i ymgeiswyr sydd â Safon Uwch mewn Cymraeg Iaith Gyntaf,” meddai.

“Wrth gwrs, dydyn ni ddim fel arfer yn derbyn ymgeiswyr sy’n cynnig Safon Uwch mewn Cymraeg Ail Iaith os ydyn nhw’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Yn yr un modd, ni fyddem yn derbyn Safon Uwch mewn Almaeneg gan rywun sy’n siarad Almaeneg fel iaith gyntaf.

“Mae’n ymddangos bod gwall yn ein hymateb i’r cais hwn a bod yr ymgeisydd, mewn gwirionedd, yn cynnig Safon Uwch mewn Cymraeg Iaith Gyntaf ac nid Ail Iaith, fel yr oedd y person oedd yn prosesu’r cais hwn yn ei feddwl.

“Pe bawn ni wedi cael gwybod am y gwall hwnnw cyn i’r ymgeisydd wrthod y cynnig ym mis Chwefror, byddem yn sicr wedi addasu’r cynnig i un oedd yn cynnwys Safon Uwch mewn Cymraeg.”