Kirsty Williams (Llun: Cynulliad Cenedlaethol Cymru)
Fe fydd ysgol gynradd Gymraeg newydd sbon yn cael ei hadeiladu yng Nghaerdydd wedi i Lywodraeth Cymru sicrhau cyllid ar ei chyfer.

Bydd lle ar gyfer 420 o ddisgyblion yn yr ysgol newydd fydd yn cael ei hadeiladu ar Heol Lewis, Sblot, ac fe fydd lle i 80 yn y feithrinfa.

Daeth cadarnhad heddiw gan yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, fod Llywodraeth Cymru am ddyfarnu £3.9 miliwn at y prosiect fydd yn costio £7.8 miliwn.

‘Galw am addysg Gymraeg’

Dywedodd Kirsty Williams y bydd yr ysgol newydd “o fudd i’r gymuned gyfan” o ran cyflogaeth a chyfleoedd i gyflenwyr lleol.

“Mae’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd wedi tyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai gan gyfeirio at Raglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif sy’n cynllunio ymateb i hynny.

“Rwy’n awyddus i sicrhau bod plant mewn cymunedau ledled y wlad yn cael mynediad at yr adnoddau addysgol gorau posibl,” ychwanegodd Kirsty Williams.

“Caiff plant yn yr ardal hon o Gaerdydd fanteisio ar amgylchedd dysgu hollol fodern, ynghyd ag ardal chwarae ac addysgu awyr agored newydd sbon.”